Mae Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain (y BDS) wedi sicrhau grantiau i wneud gwaith ymarferol er lles Mursen y De yn Ardal Cadwraeth Arbennig Y Preseli, sef un o gadarnleoedd y fursen hon yn y DU ac yn Ewrop. Cafwyd grantiau o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys Amgylchedd Cymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro. Cwblhawyd y gwaith mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro.

Mae cyllid gan CNC wedi galluogi i Swyddog Cadwraeth y BDS weithio ar y prosiectau cadwraeth y manylir arnynt ar y dudalen hon.

Hefyd, mae cyllid hael wedi cefnogi’r gwaith o gyfieithu peth o’r wybodaeth ar y dudalen hon i’r Gymraeg. Drwy glicio ar y teitlau Cymraeg, fe welwch y testun yn y Gymraeg a thrwy glicio ar y teitlau Saesneg, fe welwch y testun yn Saesneg.

Adnabod

Mursen y De Coenagrion mercuriale yw’r lleiaf o’r ‘mursennod glas’ gyda’r gwryw yn las llachar ag arno farciau du a’r fenyw yn llai llachar. Gellir gwahaniaethu rhwng y gwryw â gwrywod eraill o rywogaeth debyg drwy sylwi ar y marc ‘arian byw’ ar segment dau yr abdomen a’r marciau siâp gwaywffon ar segmentau eraill yr abdomen. Mae’r benywod yn wyrdd pŵl gyda’r abdomen yn ddu uwchben yn bennaf. Mae ganddynt siâp ysgall ar dop yr abdomen ac ychydig o raniadau glas rhwng y segmentau ger blaen yr abdomen. Gellir cael benywod prinnach, glas eu ffurf. Mae gan y ddau ryw labed bychan ar ymyl ôl y pronotwm.

Wales page cons Southern Damselfly mercury mark Dave Smallshire

Wales page cons Gernos good habitat Claire Install

Cynefin yn Sir Benfro

Mae’n rhywogaeth eithaf eisteddog a phur anaml y mae’n hedfan ymhellach na 50 metr o’i safle ymddangos. O’r herwydd, mae’n rhywogaeth agored iawn i niwed, yn enwedig gan fod ganddi ofynion arbenigol iawn o ran cynefin. Yn Sir Benfro, mae’r safleoedd magu sydd mewn cyflwr da ar rostir ac yn ffrydiau a nentydd bas a lenwir gan ddŵr daear. Mae hyn yn sicrhau tymheredd cymharol fwyn yn y dŵr yn gyson, a llif parhaus o ddŵr. Mae gwely’r nentydd yn gleiog gyda chlytiau o falurion organig. Dylai’r dyfrffyrdd fod â llystyfiant da, ond gydag ardaloedd o ddŵr agored. Ymhlith y planhigion dŵr sy’n dynodi cynefin addas mae Ffa’r Gors Menyanthes trifoliata, Eurinllys y Gors Hypericum elodes, Dyfrllys y Gors Potamogeton polygonifolius a’r Ddyfrforonen Sypflodeuog Apium nodiflorum. Hefyd, mae’r rhywogaeth angen ardaloedd o gysgod gerllaw ar gyfer yr oedolion.

Diogelu cyfreithiol

Mae Mursen y De yng Nghymru yn rhywogaeth Adran 42 Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (Adran 41 yn Lloegr) ac yn rhywogaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth. Mae’n cael ei gwarchod gan y gyfraith o dan Atodlen 5 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) ac mae wedi’i rhestru fel Mewn Perygl ar y Rhestr Data Coch o Weision y Neidr a Mursennod. Mae nid yn unig yn brin ac mewn perygl ym Mhrydain, ond mae hefyd wedi’i rhestru fel rhywogaeth o dan Gryn Fygythiad ar Restr Goch Ewrop ac yn cael ei gwarchod gan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau y Gymuned Ewropeaidd. Mae ei phresenoldeb yn brif reswm dros ddynodi Mynyddoedd y Preseli fel Ardal Gadwraeth Arbennig. Felly, mae’n hollbwysig bod safleoedd magu allweddol y rhywogaeth yng Nghymru’n cael eu gwarchod, eu gwella a’u hehangu lle bo hynny’n bosib.

Wales page cons Southern Damselfly in cop Dave Smallshire

Gwaith partneriaeth

Ers 2011, mae Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Sir Benfro er mwyn gwarchod a chreu ardaloedd cynefin pwysig i Fursen y De. Mae dau o’r prosiectau hyn, ym Mhenlan a Chornel Pensarn, wedi cael cefnogaeth Amgylchedd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain wedi creu amgylchedd delfrydol ar gyfer y rhywogaeth ym Mhenlan ac wedi achub ardal werthfawr o gynefin yng Nghornel Pensarn. Gyda chyllid grant pellach gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, mae ardaloedd mewn nant bellach ar Ros Brynberian wedi cael eu hadfer ac mae cynllun rheoli wedi cael ei lunio ar gyfer Mursen y De yn Ardal Gadwraeth Arbennig Mynyddoedd y Preseli a’r ardal gyfagos. Bellach, mae’r cynllun rheoli’n llywio ac yn sail i’r gwaith ymarferol sy’n cael ei wneud er budd Mursen y De yn yr ardal hon.

Mae’r prosiect yn 2015 wedi cael ei weithredu gyda chyllid gan CNC ac mewn partneriaeth â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro.

Wales page cons Waun Fawr 2June 2013 Claire Install

Bygythiadau

Arferai Mursen y De fod yn ehangach ei dosbarthiad yn Sir Benfro. Mae dwy o’r tair prif boblogaeth wedi diflannu, gan adael poblogaethau bychain, gwasgaredig yn ac o amgylch Ardal Gadwraeth Arbennig y Preseli, sydd hefyd yn dir comin. Mae’r rhain yn agored i niwed yn awr oherwydd y gostyngiad mawr mewn pori, yn enwedig gan dda byw mawr. Mae’r diffyg pori wedi arwain at lystyfiant cyfagos yn tagu ffrydiau ac felly mae’r cynefin yn anaddas i Fursen y De. Mae arsylwadau diweddar a sawl blwyddyn o fonitro wedi dangos bod poblogaeth Mursen y De yn Sir Benfro yn dirywio ac, mewn sawl achos, yn glynu wrth y darnau olaf o gynefin sydd dal yn addas, ond heb fod yn ddelfrydol bellach.

Mae newidiadau diweddar mewn rheoli tir wedi rhoi pwysau penodol ar y poblogaethau sy’n bodoli yn Sir Benfro. Mae Mursen y De eisiau llystyfiant agored sydd wedi’i bori’n dda gerllaw nentydd bychain. Mae hefyd yn fuddiol i’r nentydd gael ymylon wedi’u sathru a thwmpathau sydd wedi’u creu gan anifeiliaid pori trwm, fel gwartheg a cheffylau.

Mae sawl rhwystr yn atal sicrhau’r drefn bori briodol ar gyfer Mursennod y De ar dir comin. Rhesymau economaidd, cyfreithiol a diwylliannol sydd wrth wraidd y rhwystrau hyn. Hefyd, ceir nifer o bartïon gwahanol sydd â diddordeb mewn tir comin, gan arwain at nifer o broblemau unigol i’w goresgyn cyn gallu ystyried ac asesu’r problemau ymarferol. Yn y dyfodol, gobeithir y bydd posib dod o hyd i ffordd o wella’r drefn bori er budd Mursen y De, trefn a gefnogir gan holl ddefnyddwyr y comin ac sydd o fudd iddynt.