Edrych tua’r dyfodol
Mae staff a gwirfoddolwyr Cymdeithas Gweision y Neidr Prydain a Cyfoeth Naturiol Cymru yn llunio rhestr ddymuniadau o brosiectau ymarferol i’w gweithredu fel blaenoriaeth er budd Mursen y De. Yna, bydd y prosiectau hyn yn cael eu cynllunio a’u costio’n fras, cyn ceisio cytundeb gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’r perchnogion tir perthnasol.
Oherwydd pwysau pori annigonol dros nifer o flynyddoedd, mae gwaith adfer ymarferol a gwaith creu cynefinoedd newydd wedi dod yn angenrheidiol ar sawl safle. Mae’n rhaid trin y tir gan ddefnyddio peiriannau cloddio mecanyddol yn awr, er mwyn adfer cynefinoedd blaenorol, oherwydd mewn sawl achos mae’r cynefin wedi mynd y tu hwnt i gam ble gellir ei adfer drwy bori yn unig. Bydd rhaid wrth ganiatâd perchnogion tir ymhell ymlaen llaw ar gyfer yr holl brosiectau arfaethedig a bydd rhaid cynnwys amod bod y porwyr hefyd yn hapus gyda’r gwaith sydd i’w wneud. Yna gwneir ceisiadau am ragor o grantiau i gyllido prosiectau unigol.
Mae’r prosiectau sydd wedi cael eu gweithredu hyd yma wedi cael eu cefnogi i gyd gan y perchnogion tir a’r porwyr. Heb gefnogaeth barhaus y rhain, a Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ni fydd posib gwarchod Mursen y De yn llwyddiannus yn y dyfodol. Mae’r prosiectau partneriaeth llwyddiannus ym Mhenlan, ar Ros Brynberian ac yng Nghornel Pensarn i gyd yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol cadwraeth Mursen y De yn Ardal Gadwraeth Arbennig Mynyddoedd y Preseli ac yn yr ardal gyfagos.